Enghraifft o: | indictment, achos troseddol ![]() |
---|---|
Rhan o | March 2023 Donald Trump arrest rumors, indictments against Donald Trump ![]() |
Prif bwnc | Stormy Daniels–Donald Trump scandal, Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016 ![]() |
Enw brodorol | People v. Trump ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
![]() |
Achos troseddol yn erbyn Donald Trump, 45fed Arlywydd Unol Daleithiau America, oedd The People of the State of New York v. Donald Trump a gychwynnodd yng Ngoruchaf Lys Efrog Newydd yn Ebrill 2024. Cyhuddir Trump o 34 achos o ffugio cofnodion busnes gyda'r bwriad i gyflawni neu guddio troseddau eraill, yn ymwneud â thaliadau i Stormy Daniels, actores ffilmiau pornograffig, i geisio sicrhau ei thawelwch hi ynglŷn â pherthynas rywiol rhyngddynt. Yn ôl cyfraith daleithiol Efrog Newydd, camymddygiad yw ffugio cofnodion busnes, ond gallai gael ei ystyried yn drosedd difrifol os gwneid er hyrwyddo trosedd arall.[1] Cyhuddir Trump gan Erlynydd Ardal Manhattan o ffugio'i gofnodion busnes gyda'r nod o dorri cyfyngiadau ffederal ar ariannu ymgyrchoedd etholiadol, i ddylanwadu'n anghyfreithlon ar yr etholiad arlywyddol yn 2016, ac i gyflawni twyll treth;[2] mae pob un o'r 34 cyhuddiad yn erbyn Trump felly yn ffelwniaeth, ac mae'n wynebu dedfryd o garchar am 20 mlynedd os caiff ei euogfarnu ar o leiaf pum cyhuddiad.
Ar 30 Mai 2024, cafwyd Trump yn euog o bob un o'r 34 cyhuddiad yn ei erbyn.[3] Bu disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 11 Gorffennaf 2024, a bwriadodd Trump a'i gyfreithwyr apelio yn erbyn yr euogfarn.[4] Gohiriwyd y sesiwn ddedfrydu sawl gwaith, ac yn Nhachwedd 2024 enillodd Trump yr etholiad arlywyddol. O'r diwedd, ar 10 Ionawr 2025, deng niwrnod cyn i Trump gael ei urddo'n arlywydd yr Unol Daleithiau am yr eildro, cyhoeddodd yr Ustus Juan Merchan ei fod am ddedfrydu Trump i "ryddhad diamod", hynny yw, heb gosb. Dywedodd Merchan dyna oedd "yr unig ddedfryd cyfreithlon na fyddai'n ymyrryd â swydd uchaf y wlad".[5]